Sunday, April 18, 2010

A Rosetta Stone for Geert Wilders: Part Thirteen

A Rosetta Stone for Geert WildersTonight I present with pleasure our first-ever translation into a Celtic language: Geert Wilders’ speech at the House of Lords has been rendered into Welsh.

I’ve been to Wales several times, most recently in 2002. It is a beautiful country, although the mountainous areas, especially in Snowdonia, are wild and forbidding.

The Welsh language (Cymraeg) is a descendant of Old Brythonic, one of the two branches of the Insular Celtic languages. The only living cousin of Welsh is Breton, which is spoken in western France. Cumbric (which was spoken in the Scottish Lowlands and Cumberland) and Cornish are extinct members of the Brythonic family, although the latter has recently been partially revived. The other family of Insular Celtic languages is known as Goidelic, and includes Irish Gaelic (Gaeilge) and Scots Gaelic (Gàidhlig), as well as the extinct Manx language.

Thanks to the dedicated efforts of Welsh language preservationists, Welsh is spoken by significantly more people today than it was fifty years ago. There are approximately 750,000 native Welsh speakers, with about 600,000 of them living in Wales proper. The rest are scattered through various parts of England and in Patagonia, of all places, where there is a significant Welsh colony.

The history of the Celts — their origins, migrations, invasions, and wars — is a fascinating topic, but beyond the scope of a Geert Wilders post.

Once again, here’s a snippet from Mr. Wilders’ speech on March 5th:

I don’t know whether it is true, but in several British newspapers I read that Labour opened the door to mass immigration in a deliberate policy to change the social structures of the UK. Andrew Neather, a former government advisor and speech writer for Tony Blair and Jack Straw, said the aim of Labour’s immigration strategy was, and I quote, to “rub the Right’s nose in diversity and render their arguments out of date”. If this is true, this is symptomatic of the Left.

Ladies and gentlemen, make no mistake: The left is facilitating Islamization.

Our list of languages so far:

AlbanianGerman †Romanian †
Bulgarian †HebrewRussian
DanishHungarianSpanish
DutchItalianSwedish *
FinnishPolishWelsh
FrenchPortuguese

(* = assigned but not yet received; † = received but not yet posted)

The entire English text is available here.

Many thanks to Saxeus, who translated the speech into Welsh with the help of Dafydd Fardd:

Araith Geert Wilders yn Nhy’r Arglwyddi

Diolch. Mae’n braf bod yn ôl yn Llundain. Ac mae’n braf mai’r tro hwn cefais gyfle i weld mwy o’r ddinas ryfeddol hon na ddim ond y ganolfan gadw ym Maes Awyr Heathrow.

Heddiw dw i’n sefyll o’ch blaen, yn y lle hynod hwn. Yn wir, mae’r lle hwn yn sanctaidd. Fel y dywed Malcolm bob tro, dyma fam pob senedd, dw i’n teimlo’n ostyngedig iawn i gael y cyfle i siarad o’ch blaen.

Diolch i chi Arglwydd Pearson ac Arglwyddes Cox am eich gwahoddiad ac am ddangos fy ffilm ‘Fitna’. Diolch i chi fy nghyfeillion am fy ngwahodd.

Yn gyntaf mae gen i newyddion da. Ddydd Mercher diwethaf cynhaliwyd etholiadau cyngor dinas yn yr Iseldiroedd. Ac am y tro cyntaf cymerodd fy mhlaid, Plaid Rhyddid, ran yn yr etholiadau lleol hyn. Buom yn cymryd rhan mewn dwy ddinas. Yn Almere, un o ddinasoedd mwyaf yr Iseldiroedd, a’r Hâg, y drydedd ddinas fwyaf; cartref y llywodraeth, y senedd a’r frenhines. A gwnaethom yn dda! Gydag un ergyd daeth fy mhlaid yn blaid fwyaf yn Almere a’r ail fwyaf yn yr Hâg. Newyddion da iawn i’r Blaid Rhyddid, ac hyd yn oed newyddion gwell i bobl y ddwy ddinas hardd hyn.

Ac mae gen i ragor o newyddion da. Bythefnos yn ôl syrthiodd llywodraeth yr Iseldiroedd. Ym mis Mehefin cawn etholiadau seneddol. Ac mae’r dyfodol yn edrych yn dda i’r Blaid Rhyddid. Yn ôl rhai poliau deuwn y blaid fwyaf yn yr Iseldiroedd. Dw i eisiau bod yn ddiymhongar, ond pwy a wyr, gallwn hyd yn oed fod yn Brif Weinidog mewn ychydig o fisoedd!
- - - - - - - - -
Foneddigion a boneddigesau, nepell o fan hyn saif cerflun o’r Prif Weinidog gorau bu gan eich gwlad erioed, ac hoffwn ddyfynnu ganddo yma, heddiw: ‘Mae Mohametaniaeth yn ffydd filwriaethus a phroselytio. Ni fodolir grym gwrthredol mwy yn y byd. Mae wedi lledu trwy Ganolbarth Affrica eisoes, yn codi rhyfelwyr eofn gyda phob cam….. gallai gwareiddiad Ewrop gyfoes syrthio, fel y syrthiodd gwareiddiad yr hen Rufain.’ Daw’r geiriau hyn gan neb llai na Winston Chruchill a ysgrifennodd hyn yn ei lyfr, ‘The River War,’ yn 1899.

Roedd Churchill yn gywir.

Foneddigion a boneddigesau, does gen i broblem ac nid oes gan fy mhlaid broblem gyda Moslemiaid fel y cyfryw. Mae llawer o Foslemiaid cymhedrol. Mae’r rhan fwyaf o Foslemiaid yn ddinasyddion sy’n ufudd i’r gyfraith ac eisiau byw bywyd heddychlon fel chi a fi. Dw i’n gwybod hynny. Dyna pam dw i’n wastad gwneud yn glir y gwahaniaeth rhwng y bobl, y Moslemiaid, a’r ideolog, rhwng Islam a’r Moslemiaid. Mae llawer o Foslemiaid cymhedrol, ond nid oes y ffasiwn beth ag Islam cymhedrol.

Anela Islam at arglwyddiaeth dros y byd. Mae’r Coran yn gorchymyn Moslemiaid i arfer jihad. Mae’r Coran yn gorchymyn Moslemiaid i sefydlu cyfraith sharia. Mae’r Coran yn gorchymyn Moslemiaid i orfodi Islam ar y byd cyfan.

Fel y dywedodd cyn Brif Weinidog Twrci Erbakan, ‘Bydd holl gyfandir Ewrop yn Islamaidd. Gwnawn oresgyn Rhufain.’ Diwedd y dyfyniad.

Dywedodd unben Libya Gaddafi: ‘Mae ‘na ddegau o filiynau o Foslemiaid ar gyfandir Ewrop heddiw ac mae eu niferodd yn cynyddu. Dyma arwydd clir y caiff y cyfandir Ewropeaidd ei droi’n Islamaidd. Bydd Ewrop yn gyfandir Moslemaidd ryw ddydd cyn bo hir.’ Diwedd y dyfaniad. Yn wir, am unwaith yn ei fywyd, roedd Gaddafi yn dweud y gwir. Achos, cofiwch, tynged ydy mewnfudiad torfol a demograffiau!

Nid dim ond crefydd ydy Islam ond yn bennaf mae’n ideoleg totalitaraidd. Mae Islam eisiau domineiddio pob rhan o fywyd, o’r crud i’r bedd. Cyfraith ydy sharia sy’n rheoli pob manylyn bywyd mewn cymdeithas Islamaidd, o’r gyfraith sifil a theuluol i’r gyfraith trosedd. Mae’n penderfynu sut dylid bwyta, gwisgo neu ddefnyddio’r toiled hyd yn oed. Gorthrymu merched sy’n dda, yfed alcohol sy’n ddrwg.

Ni chredaf fod Islam yn gydnaws gyda’n ffordd Orllewinol o fywyd. Bygythiad i’n gwerthoedd Gorllewinol ydy Islam. Cydraddoldeb dynion a merched, cydraddoldeb cyfunrhywiaid a gwahanrywiaid, y gwahanu rhwng eglwys a gwladwriaeth, rhyddid barn, maent i gyd dan bwysau oherwydd Islameiddio. Foneddigion a boneddigesau: nid yw Islam a rhyddid, Islam a democratiaeth yn gydnaws. Maent yn werthoedd croes i’w gilydd.

Pa ryfedd y galwodd Winston Churchill ‘Mein Kampf’ Hitler, ‘Coran newydd ffydd a rhyfel, chwyddedig, amleiriog, di-lun, ond beichiog gyda’i neges.’ Fel rydych yn gwybod, gwnaeth Churchill ei gymhariaeth rhwng y Coran a Mein Kampf yn ei lyfr, ‘The Second World War’, campwaith a dderbyniodd y Wobr Nobel am lenyddiaeth. Mae cymharu’r Coran gyda Mein Kampf gan Churchill yn hollol gywir. Craidd y Coran ydy’r alwad i Jihad. Golyga Jihad lawer o bethau, ac yn Arabeg golyga frwydr. Golyga Kampf frwydr yn Almaeneg. Golyga Jihad a kampf union yr un peth.

Ystyr Islam ydy ymostyngiad, ni fedra unrhyw gamddealltwriaeth fod ynghylch ei nod. Mae’n hysbys i bawb. Y cwestiwn ydy, a fyddwn ni yn Ewrop a chi ym Mhrydain, gyda’ch gorffennol disglair, yn ymostwng neu’n sefyll yn gadarn dros eich treftadaeth.

Gwelwn Islam yn tyfu yn y Gorllewin ar raddfa anhygoel. Mae Ewrop yn Islameiddo’n gyflym. Mae gan lawer o ddinasoedd Ewropeaidd grynhoadau Islamaidd enfawr. Paris, Amsterdam, Brwsel a Berlin ydy rhai enghreifftiau. Mewn rhai rannau o’r dinasoedd hyn, gweithredir rheolau Islamaidd yn barod. Mae hawliau merched yn cael eu dinistrio. Burqas, pensgarffiau, amlwreiciaeth, llurguniad genitalia benywaidd, lladd dros sarhad. Mae’n rhaid i’r merched fynd i wersi nofio ar wahân, peidio cael ysgwyd llaw. Mewn sawl dinas Ewropeaidd mae apartheid yn bodoli eisoes. Mae Iddewon yn gadael Ewrop mewn niferoedd cynyddol.

Fel rydych i gyd yn gwybod yn ddiamau, yn well na fi, mae mewnfudo torfol ac Islameiddo wedi cynyddu’n gyflym yn eich gwlad. Mae hyn wedi gosod pwysau mawr ar eich cymdeithas Brydeinig. Edrychwch beth sy’n digwydd, er enghraifft, yn Birmingham, Leeds, Bradford ac yma yn Llundain. Gwleidyddion Prydeinig a anghofiodd am Winston Churchill, wedi cymryd y llwybr hawsaf. Maen nhw wedi rhoi’r ffidl yn y to. Maen nhw wedi ildio.

Llynedd, gofynnodd fy mhlaid am ddadansoddiad budd-cost o’r mewnfudo torfol gan Lywodraeth yr Iseldiroedd. Ond gwrthododd y llywodraeth roi ateb inni. Pam? Achos gan fod ofn y gwirionedd arnynt. Dydy’r arwyddion ddim yn dda. Amcangyfrifodd cylchgrawn wythnosol Iseldirig – Elsevier – y costau i fod yn uwch na 200 biliwn Ewro. Llynedd ar ei ben ei hun daethant i gyfanswm o 13 biliwn Ewro. Gwnaethpwyd rhagor o amcangyfrifon dros Ewrop: yn ôl Banc Cenedlaethol Denmarc mae pob mewnfudwr o wlad Islamaidd yn costio gwladwriaeth Ddenmarc mwy na 300 mil Ewro. Gwelir yr un stori yn Norwy a Ffrainc. Gellir dod i’r casgliad fod Ewrop yn mynd yn fwyfwy tlawd bod dydd. Mwy o dlodi diolch i fewnfudo torfol. Mwy o dlodi diolch i’r ddemograffeg. Ac mae’r rhai ar y Chwith wrth eu boddau.

Dwn i os ydy’n wir ai peidio, ond mewn sawl papur newydd Prydeinig darllenais mai Llafur agorodd y drws i fewnfudo torfol fel polisi bwriadol er mwyn newid y strwythurau cymeithasol yn y DU. Dywedodd Andrew Neather, cyn-gynghorwr y llywodraeth ac ysgrifennwr areithiau ar gyfer Tony Blair a Jack Straw, fod nod strategaeth fewnfudo Llafur oedd, ac rwy’n dyfynnu, ‘rhwbio trwyn y Dde yn amrywiaeth a gwneud eu dadleuon yn hen ffasiwn,’ Os ydy hynny’n wir, mae’n nodweddiadol o’r Chwith.

Foneddigion a boneddigesau, peidiwch â chamddeall: Mae’r Chwith yn hyrwyddo Islameiddio. Mae’r Chwith, rhyddfrydwyr yn gorfoleddu gydag agoriad pob banc sharia newydd, gyda phob morgais sharia newydd, gyda phob ysgol Islamaidd newydd, gyda phob llys sharia newydd. Mae’r Chwith yn ystyried Islam yn gydradd gyda’n diwylliant ein hunain. Cyfraith sharia neu ddemocratiaeth? Islam neu ryddid? Dydy o ddim o bwys iddynt. Ond mae o bwys inni. Mae holl elit y Chwith yn euog o ymarfer perthynoliaeth ddiwylliannol. Prifysgolion, eglwysi, undebau llafur, y cyfryngau, gwleidyddion. Maent i gyd yn bradychu ein hawliau a enillwyd drwy ymdrech caled.

Pam, dw i’n gofyn i mi fy hun, fod y Chwith a’r rhyddfrydwyr wedi rhoi’r gorau i ymladd drostynt? Unwaith safodd y Chwith ar y baricadau dros hawliau merched. Ond ble maent heddiw? Ble maen nhw yn 2010? Maen nhw’n edrych i ffwrdd. Achos maen nhw’n gaeth i berthynoliaeth ddiwylliannol ac yn ddibynnol ar y bleidlais Foslemaidd. Maen nhw’n ddibynnol ar fewnfudo torfol.

Diolch i’r nefoedd dydy Jacqui Smith ddim yn ei swydd mwyach. Roedd yn fuddigoliaeth i ryddid barn mai barnwr o’r DU ysgubodd ymaith ei phenderfyniad i wrthod fy mynediad i’ch gwlad y llynedd. Gobeithio bod barnwyr fy mamwlad o leiaf cyn ddoethed a byddant yn fy rhyddfarnu o bob cyhuddiad, nes ymlaen eleni yn yr Iseldiroedd.

Yn anffodus, hyd yn hyn nid ydynt wedi argyhoedi. Nid ydynt eisiau clywed y gwirionedd am Islam, ac does ganddynt ddim diddordeb mewn gwrando ar farn arbenigwyr cyfreithiol o’r radd flaenaf yn y maes rhyddid barn. Y mis diwethaf mewn sesiwn agoriadol gwrthododd y llys bymtheg o’r deunaw tyst arbenigol roeddwn wedi gwneud cais iddynt gael eu gwysio.

Tri thyst arbenigol yn unig sy’n cael canitâd i gael eu clywed. Yn ffodus, fy nghyfaill annwyl a seiciatrydd arwrol Americanaidd, Dr Wafa Sultan yn un ohonynt. Ond caiff eu tystiolaeth ei chlywed y tu ôl i ddrysau caeëdig. Mae’n ymddangos ni ddylai’r gwirionedd ynghylch Islam gael ei ddatgan yn gyhoeddus, mae’n rhaid cadw’r gwirionedd am Islam yn ddirgel.

Foneddigion a boneddigesau, dw i’n cael f’erlid am fy nghredoau gwleidyddol. Gwyddom fod erlidigaethau gwleidyddol yn bodoli mewn gwledydd y Dwyrain Canol, fel Iran a Sawdi-Arabia, ond byth yn Ewrop, byth yn yr Iseldiroedd.

Dw i’n cael f’erlyn am gymharu’r Coran â Mein Kampf. Hurt bost. Tybed a fydd Prydain byth yn rhoi credoau Winston Churchill i sefyll eu prawf – Foneddigion a boneddigesau, mae’n rhaid rhoi pen ar yr achos gwleidyddol yn f’erbyn.

Ond dydy popeth ddim amdana i, nid am Geert Wilders. Rhyddid barn sydd dan fygythiad. Gad i mi roi ychydig o enghreifftiau eraill. Fel efallai rydych yn gwybod, roedd rhaid i un o’m harwyr, yr awdures Eidalaidd Oriana Fallaci, fyw mewn ofn o gael ei hestraddodi i’r Swistir am ei llyfr gwrth-Islamaidd, ‘The Rage and the Pride.’ Arestiwyd y cartwnydd Iseldirig Nekschot yn ei gartref yn Amsterdam gan 10 plismon am ei luniau gwrth-Islamaidd. Yma ym Mhrydain, cafwyd yr awdur Americanaidd Rachel Ehrenfeld ei herlyd am iawndal gan ddyn busnes o Sawdi am ddifenwi. Cafwyd Ayaan Hirsi Ali yn yr Iseldiroedd a dau ficar Cristnogol yn Awstralia eu herlid am iawndal. Gallwn i fynd ymlaen ac ymlaen. Foneddigion a boneddigesau, trwy’r Gorllewin i gyd mae pobl sy’n caru rhyddid yn wynebu’r ‘jihad cyfreithiol’ parheus hwn. Dyma ‘rhyfel y gyfraith’ Islamaidd, a foneddigion a boneddigesau, amser byr yn ôl bu bron i’r cartwnydd Danaidd Westergaard gael ei lofruddio am ei gartwnau.

Foneddigion a boneddigesau, dylem amddiffyn yr hawl i ryddid barn. Gyda’n holl nerth, gyda’n holl rym. Rhyddid barn ydy’r pwysicaf o’n hawliau lu. Rhyddid barn ydy conglfaen ein cymeithasau cyfoes. Rhyddid barn ydy anadl ein democratiaeth, heb ryddid barn bydd ein ffordd o fyw a’n rhyddid yn diflannu.

Credaf ein bod dan rwymedigaeth i gadw etifeddiaeth y milwyr ifanc dewr a ymosododd ar draethau Normandi a’u cipio. Gwnaeth hynny ryddhau Ewrop o ormes. Ni fedra’r arwyr hyn fod wedi marw am ddim. Rydym dan rwymedigaeth i amddiffyn rhyddid barn. Fel y dywed George Orwell, ‘os golyga rhyddid unrhywbeth o gwbl, mae’n golygu’r hawl i ddweud wrth bobl yr hyn nad ydynt am ei glywed.’

Foneddigion a boneddigesau, credaf mewn polisi arall, mae’n bryd newid. Mae’n rhaid i ni frysio. Allwn ni ddim oedi ymhellach. Mae amser yn dod i ben. Os medraf ddyfynnu un o’m hoff arlywyddion Americanaidd: Dywedodd Ronald Regan unwaith, ‘Mae’n rhaid inni ymateb heddiw er mwyn cadw yfory.’ Dyna pam dw i’n addo’r mesurau canlynol, crybwyllaf ddim ond dyrnaid ohonynt, er mwyn cadw ein rhyddid.

Yn gyntaf, bydd rhaid inni amddiffyn rhyddid barn. Hi ydy’r pwysicaf o’n hawliau. Yn Ewrop, ac yn bendant yn yr Iseldiroedd, mae angen rhywbeth tebyg i’r Gwelliant Cyntaf Americanaidd arnom.

Yn ail, bydd rhaid inni roi pen ar, a chael gwared o, berthynoliaeth ddiwylliannol. I’r perthynoliaethwyr diwylliannol, y sosialwyr shariaidd, dw i’n falch i ddweud, Mae ein diwylliant Gorllewinol yn well o lawr na’r diwylliant Islamaidd. Peidiwch ag ofni dweud hyn. Dydych chi ddim yn hiliol pan ddywedwch fod ein diwylliant ein hunain yn well.

Yn drydydd, bydd rhaid inni roi pen ar fewnfudo torfol o wledydd Islamaidd. Achos golyga mwy o Islam lai o ryddid.

Yn bedwerydd, bydd rhaid inni fwrw allan mewnfudwyr sy’n droseddwyr, ac ar ôl cael eu dadfrodori, bydd rhaid bwrw allan troseddwyr gyda dinasyddiaeth ddeuol. Ac mae llawer ohonynt yn fy ngwlad.

Yn bumed, bydd rhaid inni wahardd adeiladu mosciau newydd. Mae digon o Islam yn Ewrop. Yn enwedig gyda Christnogion yn Nhwrci, yr Aifft, Irac, Pacistan ac Indonesia yn cael eu camdrin, dylai adeiladu mosciau yn y Gorllwein ddod i ben.

Ac yn olaf, ond nid y lleiaf, bydd rhaid inni gael gwared o’r holl arweinwyr hynny, chwedl hwythau. Dywedais o’r blaen, Llai Chamberliniaid, mwy Churchilliaid. Gad inni ethol arweinwyr go iawn.

Foneddigion a boneddigesau, i’r genhedlaeth flaenorol, hon o’m rhieni, mae’r gair ‘Llundain’ yn gyfystyr â gobaith a rhyddid. Pan oedd fy ngwlad yn nwylo’r sosialwyr-cenedlaethol cynigai’r BBC gip olwg beunyddiol o obaith i’m gwlad, yn nhywyllwch gormes y Nasiaid. Gwrandawai miliynau o’m cydwladwyr arno’n gudd. Roedd y geiriau, ‘This is London,’ yn symbol am fyd gwell ar y ffordd cyn bo hir.

Beth fyddwn yn darlledu mewn deugain mlynedd oddi nawr? A fydd hi’n dal, ‘Here is London’? Neu fydd hi’n, ‘Here is Londonistan’? A fydd yn dod â gobaith i ni? Neu fydd hi’n adlewyrchu gwerthoedd Mecca a Medina? Wna Prydain gynnig ymostyngiad ynteu ddyfalbarhad? Rhyddid ynteu gaethwasiaeth? Chi biau’r dewis. Ac yn yr Iseldiroedd ni biau’r dewis.

Foneddigion a boneddigesau, ni fyddwn byth yn ymddiheuro am fod yn rhydd. Ni ddylsem byth roi’r gorau iddi, ac ni fyddwn. Ac yn wir, yng ngeiriau un o’ch cyn arweinwyr, ‘byddwn byth yn ildio.’

Mae’n rhaid i ryddid ennill, a bydd yn ennill.

Diolch yn fawr iawn.

4 comments:

George Mc. said...

I lived just outside of Cardiff in St. Mellons for 3 years during the early 80s.

Cymru am byth!

Gary Rumain said...

Baron,

Is there any chance of getting this translated?

Baron Bodissey said...

Gary,

My ability to get things translated is limited. All of the translators are volunteers, so I have to limit the frequency of requests and the amount of material I ask them to translate. On the rare occasions when someone offers money to get something translated, it is a nominal sum -- no one is ever able to offer to pay anywhere near the going rate for a professional translation.

So I have to pick and choose any calls for new translations. My advice is to search out additional volunteers -- we can always use more translators.

Gary Rumain said...

Baron,

Understood. I left a message on the PI site asking about it too. I'll go and check now and see if anyone responded.

Thanks.